Amcanion
Er nad yw Deddf Iaith Gymraeg 1993 yn gosod rhwymedigaeth uniongyrchol gyfreithiol ar fudiadau gwirfoddol i gynnig gwasanaethau i’r cyhoedd yng Nghymru trwy gyfrwng yr Iaith Gymraeg, y mae Llyfrgell Deiniol Sant wedi paratoi ac yn gweithredu Datganiad Polisi Iaith Gymraeg fel rhan o’i hymrwymiad i adlewyrchu ymarferiad da ymhob agwedd o’i gwaith gyda’r cyhoedd. Trwy gyflwyniad, gweithrediad a datblygiad pellach, amcanion y Llyfrgell yw
Yn unol ag ysbryd y Ddeddf mae’r cynllun yn amlinellu’r mesurau mae Llyfrgell Deiniol Sant yn ymgymryd â hwy i drin y Gymraeg a’r Saesneg ar sail cydraddoldeb wrth ddarparu gwasanaethau i’r cyhoedd yng Nghymru lle bo’n “briodol ac ymarferol resymol”. Cyflwynwyd y polisi gan gydnabod bod cynnydd darpariaeth yn aml yn arwain at gynnydd yn y gofynion. O ganlyniad mae’r hyn sydd yn briodol ac yn ymarferol resymol ar hyn o bryd yn debygol o newid yn y dyfodol. Felly bydd ystyriaeth o’r hyn sydd yn briodol ac yn ymarferol resymol yn rhan integredig o adolygiad blynyddol y cynllun.
Cyhoeddi’r cynllun
Gosodir y Cynllun Iaith Gymraeg ar wefan y Llyfrgell yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Gohebiaeth
Mae’r Llyfrgell yn croesawu gohebiaeth (gan gynnwys e-bost) yn Gymraeg ac yn Saesneg. Lle mae’n briodol ac yn ymarferol resymol anfonir ateb yn yr un iaith â’r ohebiaeth wreiddiol.
Galwadau Ffôn
Fel arfer atebir y ffôn mewn modd sydd yn ddwyieithog. Os nad oes siaradwr Cymraeg ar gael rhoddir eglurhad i’r galwr a’r dewis i naill ai
Cyfarfodydd
Gellir darparu cyfleusterau cyfieithu ar y pryd effeithiol mewn ystafelloedd cyfarfod pwrpasol.
Gwefan
Bydd gwefan y Llyfrgell yn adlewyrchu natur ddwyieithog y sefydliad gan gynnwys cyflwyniad i hanes a gweithgareddau’r Llyfrgell trwy gyfrwng y Gymraeg.
Hunaniaeth Gyfun
Mae’r Llyfrgell yn ymroi i ddatblygu arwyddion a phenawdau llythyr yn ddwyieithog yn y dyfodol.
Gwybodaeth Gyffredinol a Chyfarwyddyd
Mae’r Llyfrgell yn ymroi i gynnal a datblygu taflenni gwybodaeth gyffredinol a chyfarwyddyd trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg lle bo’n briodol.
Ffurflenni
Bydd ffurflenni ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Hysbysebu a Chyhoeddusrwydd
Cyflwynir unrhyw hysbysebion a chyhoeddusrwydd a gyfeirir yn uniongyrchol at y cyhoedd yng Nghymru yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Recriwtiad
Mae’r Llyfrgell yn recriwtio’r holl staff ar sail cystadleuaeth deg ac agored gan apwyntio y person gorau i’r swydd ar bob achlysur. Byddwn yn ceisio recriwtio siaradwyr Cymraeg lle bo’n briodol.
Hyfforddiant
Mae’r Llyfrgell yn ymroi i annog y staff i ddatblygu eu sgiliau ieithyddol Cymraeg.
Adolygir gweithrediad a datblygiad pellach o Bolisi yr Iaith Gymraeg gan y Pwyllgor Rheoli yn flynyddol.
What's next?
Why not stay overnight or plan a short retreat for some personal study time. You'll find the atmosphere here peaceful and friendly, and of course there's the library itself with over 250,000 texts that cover a wide range of subjects, specialising in our core subject areas of Theology and Victorian Studies.
View details of our accommodation at St Deiniol's
Go to booking enquiries
Tel: 01244 532350
Email: enquiries@st-deiniols.org